16/06/2009

SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU

‘Sant Tathan ac Academi Heddwch Cymru’ to be published this week in Y Pedair Tudalen (the three weekly religious magazines: Y Goleuad, Seren Cymru, and Y Tyst). In this note I ask the readers to oppose the two planning applications re. St Tathan, and to attend the Cynefin y Werin meeting in Aberystwyth, 4 July.

SAIN TATHAN AC ACADEMI HEDDWCH CYMRU Robin Gwyndaf

Na i wario 12 biliwn o bunnoedd ar ddatblygu Academi Filwrol Sain Tathan. Na i ganiatau i’r Fyddin hysbysebu ar S4C a sianelau eraill y teledu. Na i Trident. A na i Gymru gael ei thraflyncu gan y traddodiad Prydeinig ymerodraethol a militaraidd. Na i ddiwylliant rhyfel.

Ond ie i greu diwylliant heddwch ac Academi Heddwch i Cymru. Nid Sefydliad (Institute) gyda’r prif bwyslais ar ymchwil yn unig, ond Academi i gynghori’r Cynulliad a’r Llywodraeth Brydeinig ac i ddylanwadu ar bolisi. Yn bwysicach na dim, Academi i sicrhau bod astudiaethau heddwch, cyfiawnder a hawliau dynol yn cael eu cyflwyno yn ysgolion a cholegau Cymru.

Dyna oedd byrdwn yr erthygl y bu’r Parchg John Pritchard, y Golygydd, mor garedig â’i chyhoeddi yn rhifyn 24 Ebrill o’r Pedair Tudalen. Mawr ddiolch iddo.

A mawr ddiolch hefyd i’r rhai ohonoch chwithau a fu mor barod ag ymateb i’r erthygl honno. Ac yn awr mi garwn i estyn gwahoddiad caredig i bawb o’r darllenwyr ddod i’r adwy i fod â rhan bersonol a gweithredol mewn dau weithgarwch sydd, yn fy marn i. o’r pwys mwyaf, sef: gwrthwynebu’r datblygiad yn Sain Tathan a chefnogi’r bwriad i sefydlu Academi Heddwch i Gymru.

A dyma’r gwahoddiad cyntaf. Ar hyn o bryd y mae dau gais am ganiatâd cynllunio gerbron Cyngor Bro Morgannwg.

1. Cais (rhif 2009/00500/FUL) gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn, Cwmni Metrix UK Cyf. a Chwmni Sodexo Cyf. i ddatblygu Academi yn Sain Tathan (neu Goleg Technegol Amddiffyn, fel y’i gelwir bellach).

2. Cais (rhif 2009/00501/FUL) gan ‘Y Gweinidogion Cymreig’ i ddatblygu yn Sain Tathan Barc Busnes Awyrfodol (Aerospace).

Dyma, felly’r gwahoddiad cyntaf, yn wir, apêl: a wnewch chi fel unigolion nodi eich gwyrthwynebiad cryfaf posibl i’r ddau gais uchod, a threfnu hefyd i’ch eglwysi wneud yr un modd, gan nodi rhifau’r ceisiadau. A gwneud hynny, os yn bosibl, o fewn dyddiau wedi darllen y nodyn hwn, Y mae brys mawr. Bydd yfory yn rhy hwyr. A dyfynnu geiriau Abiah Roderick:

Dyw’r felin ddim yn malu
Â’r dŵr sydd wedi mynd.

Y cyfeiriad i anfon eich gwrthwynebiad yw: D R Thomas, Pennaeth Cynllunio a Thrafnidiaeth, Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfa’r Doc, Dociau’r Barri, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 43T.

Yr ail wahoddiad yw hwn: brynhawn Sadwrn, 4 Gorffennaf 2009, am 2.00pm, yn Y Morlan, Aberystwyth, cynhelir cyfarfod o Gynefin y Werin. A’r amcan? Ystyried y bwriad i sefydlu Adademi Heddwch i Gymru. Unwaith eto, dyma gais caredig i bawb sy’n dymuno heddwch i Gymru ac i’r byd: byddai’n hyfryd pe gallech fod yn bresennol yn y cyfarfod pwysig hwn.

Pob bendith a myrdd o ddiolch.

No comments: